Pwy all baratoi Cynlluniau Cynefin?
Fel arfer paratoir Cynlluniau Cynefin gan:
Gynghorau Tref a Chymuned
Grwpiau cymunedol
Grwpiau o drigolion lleol
Amcan Cynlluniau Cynefin yw delio ag ardal gymunedol a’r disgwyl yw mai’r Cynghorau Tref a Chymuned fydd yn eu paratoi, neu’n cael eu paratoi trwyddyn nhw gan mai nhw yw’r corff swyddogol. Os nad oes gan eich cymuned ei Gyngor ei hun, ac efallai bod eich grŵp cymuned neu grŵp trigolion yn dymuno creu Cynllun Cynefin, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a /neu Cymorth Cynllunio Cymru am gyngor.
Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio’n agos â’ch awdurdod lleol oherwydd gallant roi rhywfaint o statws i’ch cynllun terfynol, efallai statws cyfreithiol hyd yn oed. I sicrhau eich bod yn ennill statws, bydd yn bwysig bod eich Cynllun Cynefin yn gweddu â’r Cynllun Datblygu Lleol.
Os ewch ar eich liwt eich hun i geisio creu Cynllun Cynefin, ni fydd yn gallu dylanwadu fel y dymunwch!