keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi ddechrau

Mae pob Awdurdod Lleol yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), sy’n gosod allan y cynigion a’r polisïau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yn eu hardal, yn seiliedig ar ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Gall Cynllun Cynefin, wedi ei baratoi gan gymunedau lleol, fod yn ffordd gadarnhaol i ymgysylltu â chynlluniau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, gan ychwanegu eich manylion lleol i’ch CDLl.

Gellir mabwysiadau Cynllun Cynefin gan yr Awdurdod Lleol fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA), gan roi grym iddo yn y system gynllunio, sy’n golygu:

  • mewnbwn gan yr awdurdod lleol
  • sail tystiolaeth gref
  • lefel dda o ymrwymiad y gymuned

Beth allwch chi ei gynnwys mewn Cynllun Cynefin?

Gall Cynllun Cynefin fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ddelio â materion sy’n berthynol i ddefnydd tir, datblygu a’r amgylchedd adeiledig megis tai newydd, gwella canol pentref neu dref, dyluniadau adeiladu a chymeriad lleol, iechyd a lles, mannau agored, cyflogaeth leol, cyfleusterau lleol … (dim ond rhai esiamplau yw’r rhain).

Trwy baratoi Cynllun Cynefin gall eich cymuned er enghraifft:

  • osod paramedrau lleol ynghylch yr hyn y credwch chi ddylai ddigwydd, er y gorau, ar safle a ddewiswyd i’w ddatblygu yn y CDLl …
  • neu efallai ddod o hyd a hyrwyddo safle bach i’w ddatblygu na sylwyd arno gan y cynllun lefel uwch …
  • neu efallai i awgrymu canllawiau dylunio manwl sy’n sensitif yn lleol ar gyfer yr ardal leol…

Bydd yr hyn a roddwch yn eich Cynllun Cynefin yn dibynnu ar amryw o ffactorau, yn cynnwys yr hyn sydd eisoes yn y CDLl, natur yr ardal dan sylw ac uchelgeisiau’r gymuned.

Gall eich Cynllun Cynefin fod yn eang neu ddelio ag un neu ddau fater yn unig. Gall fod yn fanwl neu’n thematig (yn gosod egwyddorion cyffredinol yn unig ynghylch datblygu).

Eich cymuned leol a’ch cynllun fydd â’r dewis. Ond gair o rybudd, i fod yn hollol gywir, nid yw Cynllun Cynefin fel CCA i fod i ddelio â phethau nad ydynt yn berthynol i gynllunio. Er enghraifft, fel arfer ni all CCA gynnwys mentrau i wella diogelwch a lleihau troseddu.

 

Y manteision i chi o gynhyrchu Cynllun Cynefin

Dyma rai manteision i’ch helpu i benderfynu p’un ai ydych chi am baratoi Cynllun Cynefin:

  • Arweinir Cynlluniau Cynefin gan sefydliadau cymunedol lleol. Maent yn ffordd i chi sefydlu’r materion datblygu pwysig ar gyfer eich cymuned a chytuno ar ffyrdd i ddelio â’r rhain yn y dyfodol.
  • Mae Cynllun Cynefin yn galluogi mewnbwn cadarnhaol a rhagweithiol i’r system gynllunio leol, gan gynnig mwy o ddylanwad i chi ar benderfyniadau cynllunio yn eich ardal leol.
  • Gellir defnyddio’r dystiolaeth a’r wybodaeth sy’n tanategu eich Cynllun Cynefin i sicrhau cyllid ar gyfer gweithrediadau a phrosiectau a nodir.
  • Mae’n ffordd o wella’r berthynas waith rhyngoch chi a’ch awdurdod lleol (a darparwyr gwasanaeth eraill o bosib).

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol bod rhai cynghorau cymuned a thref mwy o faint yn arddangos sut y cyflawnir amcanion lleol a gynhwysir yn y Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer eu hardal. Gellid defnyddio eich Cynllun Cynefin fel un ffordd o ddangos sut mae’r polisïau mae’n ei wyntyllu hefyd yn cyflawni amcanion llesiant mewn Cynllun Llesiant Lleol.

 

Fodd bynnag, nid yw’n gwestiwn o un i / neu!  

Gall Cynllun Cynefin ddelio ag ystod eang o faterion, gydag adran benodol ar faterion sy’n berthynol i ddefnydd tir (yr elfen CCA sy’n cysylltu â’r Cynllun Datblygu Lleol) AC adran ar brosiectau gweithredol ymarferol ar unrhywbeth arall sydd o werth i chi. Bydd y ffordd o ddelio â hyn yn wahanol i bob cymuned ac awdurdod lleol. Y peth allweddol i’w wneud yw i siarad â’ch awdurdod lleol er mwyn penderfynu sut i gynhyrchu eich Cynllun Cynefin er y gorau ar gyfer eich cynefin, eich cymuned, eich materion.

Nawr eich bod yn gwybod hyn oll, ewch i’r dudalen Gwneud y Penderfyniad i weld a yw Cynllun Cynefin yn gweddu i chi.