keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Creu cynlluniau: Cynlluniau Cynefin a CDLl

Creu cynlluniau: Cynlluniau Cynefin a CDLl

Creu cynlluniau

I fod yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i Gynlluniau Cynefin gysylltu’n ofalus â pharatoadau a chylch adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Felly bydd amseru Cynllun Cynefin yn ystyriaeth bwysig ar gyfer awdurdod cynllunio lleol.

Felly disgwylir i’r rhan fwyaf o Gynlluniau Cynefin gael eu paratoi gyda’r bwriad o ddod yn Ganllaw Cynllunio Atodol (CCA). Fel CCA, gellir ond mabwysiadu Cynllun Cynefin unwaith bo CDLl wedi ei fabwysiadu. Y demtasiwn wedyn fyddai i gael CDLl yn ei le cyn ei ddilyn gyda chyfres o Gynlluniau Cynefin. Mewn achosion pan fo CDLl wedi ei fabwysiadu’n ddiweddar ac sy’n gallu darparu bachyn polisi penodol i Gynllun Cynefin, efallai y byddai’n adeg delfrydol i gychwyn gweithio ar Gynlluniau Cynefin.

Fodd bynnag gall y model hwn o greu cynlluniau gyfyngu’n ddiangen ar y manteision posibl y gall Cynlluniau Cynefin eu cynnig i greu cynlluniau’r CDLl, yn enwedig yng ngolau’r nifer o CDLl sy’n cael eu Diwygio neu eu Diwygio’n fuan.

Mae llawer o botensial mewn paratoi Cynlluniau Cynefin ochr yn ochr â’r CDLl. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod efallai y byddai Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) am ystyried cynhyrchu CDLl cryno, fyddai’n golygu byddai CCA newydd yn hanfodol i gefnogi strategaeth y cynllun neu’r polisïau, neu i ddarparu canllawiau mwy manwl ar ddosrannu safleoedd mawrion.

Mae hyn yn cyflwyno rôl bosibl i baratoi Cynlluniau Cynefin ochr yn ochr â’r CDLl sydd ar y gweill, gan gynnig mecanwaith ar gyfer cyfranogaeth leol, gwybodaeth a chasglu tystiolaeth i ffurfio datblygiad polisi perthnasol yn y CDLl sy’n dod i’r amlwg. Gall hyn fod yn berthnasol yn nhermau’r safleoedd a ddosrennir mewn CDLl. Gall rhai CDLl ond nodi safleoedd mwy o faint, ac eto mae’n siwr bod llawer mwy o safleoedd bychain ar gael ac yn addas o bosib. Er na all Cynllun Cynefin fel CCA ddosrannu’r fath safleoedd, gellid eu nodi a’u hasesu ar lefel Cynllun Cynefin. Fel enghraifft dda, mae Bath and North Somerset Council yn ymgysylltu cymunedau yn y broses casglu tystiolaeth ar gyfer dosrannu safleoedd yn y Cynllun Lleol.

Ar yr un pryd, pan fo Cynllun Cynefin yn cael ei baratoi ochr yn ochr â CDLl mae’n rhoi cyfle i’r gymuned leol i ddatblygu neu gryfhau gallu cyfundrefnol a medr i baratoi Cynllun Cynefin ar gyfer eu hardal, wedi ei gysylltu â’r trafodaethau a’r penderfyniadau sy’n hysbysu’r CDLl yn uniongyrchol.

Mewn achosion pan fo Cynllun Cynefin yn cael ei baratoi ochr yn ochr â CDLl, gall hyn olygu yr ymgynghorir â hwy hefyd ochr yn ochr â’r CDLl. Fodd bynnag, fel CCA ni fyddai Cynllun Cynefin yn destun i archwiliad.

GC ac AAS?

Mae CCA yn anstatudol ac nid yw’n ofynnol cael Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) ond gall fod yn angenrheidiol cael Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar CCA er ei fod yn anstatudol, os y bernir bod effeithiau amgylcheddol arwyddocaol nad ystyriwyd eisoes, a’u trin trwy’r GC yn y CDLl, er enghraifft rhai briffiau safle / prif gynlluniau / Cynlluniau Cynefin. Yr awdurdod cynllunio lleol fydd yn rhaid penderfynu a oes gofyn am AAS cyn mabwysiadu’r CCA ond gall paratoi Cynlluniau Cynefin ochr yn ochr â CDLl negyddu’r angen potensial am AAS ar wahân.

Ewch i...

GC ac AAS?