keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Cefnogi eich cymunedau i baratoi Cynllun Cynefin

Cefnogi eich cymunedau i baratoi Cynllun Cynefin

Cefnogi cymunedau i baratoi a gorffen Cynllun Cynefin

Mae nifer o Becynnau Cymorth i helpu cymunedau i ddarganfod y llwybr o’r dechrau i’r diwedd.

Fel y gwelwch, ar hyn o bryd (mae’n debygol yr ychwanegir at hyn dros amser) mae’r gyfres cyntaf yn cynnwys agweddau eang o reoli paratoi Cynllun Cynefin, fel a ganlyn:

  • Rheolaeth Prosiect
  • Ariannu
  • Cyfranogaeth y gymuned
  • Casglu tystiolaeth
  • Drafftio cynllun

Efallai y gofynnir i chi, neu efallai na ofynnir i chi o gwbl, am gyngor ar unrhywrai o’r rhain, ond mae’n debyg y byddai’n werth rhoi cipolwg arnynt i weld beth yw eu cynnwys ac yn bendant cyn sgwrs neu gyfarfod gyda chi i drafod, er enghraifft, beth sydd yn gymwys, mewn gwirionedd, fel tystiolaeth o gymeriad hanesyddol.

Fodd bynnag, yn fwyaf pwysig, byddai’n werthfawr iawn i edrych ar rai o’r canllawiau cyffredinol a gyfeirir atynt yn y Pecyn Cymorth Rheoli Prosiectau oherwydd maent yn cynnig trosolwg dda iawn ar y broses gyfan o baratoi cynllun. Efallai bod gan eich awdurdod ei fersiwn ei hun o hyn yn barod ac, os felly, gwnewch yn siwr eich bod wedi ei gweld, a sicrhau bod pob cymuned yn ei defnyddio!

Mae’r ail grŵp o Becynnau Cymorth yn dilyn y canllawiau cyffredinol uchod. Mae deunydd cyffredinol yn ddefnyddiol iawn ond mae pobl bob amser am wybod, er enghraifft, ‘… ond sut yn union ydw i a rhai cydweithwyr yn mynd allan ac asesu safle fel y dywedir wrthym am wneud?’. Mae’r pynciau a gynhwysir yn y canllaw i’r gymuned (yn bendant rhestr y dylid ychwanegu ati maes o law) yn cynnwys:

  • Asesu safle
  • Briffiau safle
  • Asesu cymeriad
  • Cyfleusterau cymunedol
  • Twristiaeth

Pethau eraill efallai yr hoffech eu hystyried….

Gellir cyflawni cefnogi cymunedau gyda Chynlluniau Cynefin mewn gwahanol ffyrdd. Ond dyma rai syniadau eraill i chi eu hystyried:

  • paratoi tudalen gwefan Cynllun Cynefin ar wefan yr awdurdod lleol i helpu hysbysu cymunedau am y broses Cynlluniau Cynefin ac i’w cyfeirio at adnoddau perthnasol eraill.
  • datblygu nodyn cyngor neu ganllaw ar baratoi Cynlluniau Cynefin yn ardal eich awdurdod (er bod nifer o enghreifftiau da y byddech am gyfeirio eich cymunedau atynt yn lle hynny).
  • helpu darparu neu ddangos ble gellir dod o hyd i broffiliau data cymunedau.
  • darparu mapiau neu gyngor ar ble i gael gafael ar y rhain.
  • darparu cyngor ar ddrafftio polisïau ar gyfer y Cynllun Cynefin a pha bolisïau y CDLl y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

Rheoli cefnogaeth yr awdurdod

Trefnu i gefnogi

Mae sut i reoli’r broses gyfan yn rhywbeth sy’n gofyn am drafodaeth tîm, am sefydlu rolau a chyfrifoldebau eglur ac efallai am greu cyfresi sylfaenol o wybodaeth (yn cynnwys mapiau ac ati). Bydd o werth i ystyried sut i reoli ymateb gan awdurdod sy’n effeithiol ac yn adnodd-effeithlon er y gorau.

Mae canllawiau’r gymuned yn cynnwys manylion o unigolyn cyswllt yn y tîm cynllunio ymhob un o awdurdodau Cymru. Nid yw hyn yn golygu bod y swyddog cyswllt yma’n rheoli popeth ynghylch Cynlluniau Cynefin. Yn wir dylid adnabod yr unigolyn yma a byddai’n dda i rannu’r rôl rhwng eraill. Mae’n fwy tebyg mae nhw fydd y cyswllt cyntaf, ac felly’n debygol o anfon ymlaen unrhyw berson o’r gymuned at swyddog arall i ddelio ag ymholiad penodol o’r gymuned benodol honno. Ar sail hynny, dylai sawl un, os nad pawb, yn y tîm cynllunio fod yn ymwybodol o’r hyn sydd ar y gweill a bod yn barod i gymryd y rolau a amlinellwyd ynghynt.

Mae’n debyg bydd angen nodiadau rheoli ysgrifenedig ar hyn oll ond hefyd rhyw fath o hyfforddiant anffurfiol. Ar yr un pryd, mae hyn yn ddysgu newydd i bawb felly efallai byddai’n beth da i roi gweithdrefnau dros dro yn eu lle, ac yna adolygu ac addasu ar ôl cael profiad.

Rolau adrannau eraill

Fel yr awgrymwyd uchod, er mai rhywbeth y bydd timau cynllunio yn eu harwain a’u cefnogi yw Cynlluniau Cynefin, mae’n debygol y bydd adegau pan fydd ar gymunedau angen gwybodaeth a chefnogaeth gan bobl mewn adrannau eraill. Gall hyn fod yn lletchwith – gofyn am amser gan bobl eraill! – felly efallai y byddai’n well i godi ymwybyddiaeth gyda phobl allweddol sy’n uwch yn y sefydliad, aros nes bod ychydig o enghreifftiau wedi eu trin ac yna cymryd stoc ac annog eraill i wneud fel rydych chi wedi ei wneud, h.y. gosod rhai gweithdrefnau safonol a nodi (a bod yn siwr i ddweud wrthych am) bobl cyswllt allweddol.

Rolau aelodau etholedig

Mae Cynghorwyr eich awdurdod yn ganolwyr allweddol pwysig ynghylch unrhywbeth gweithredol ar lefel gymunedol. Ac, wrth gwrs, bydd rhai ohonynt yn Gynghorwyr Tref neu Gymuned; dolen naturiol i’w datblygu.

Gall Cynghorwyr helpu i hyrwyddo ac esbonio Cynlluniau Cynefin, dylent fod yn gallu cynnig cyngor cyffredinol (felly dylid eu hannog i o leiaf roi cipolwg ar yr holl ganllawiau) a helpu i hwyluso cyfarfodydd, trafodaethau a chefnogaeth ar y tasgau amrywiol.

Unwaith eto, byddai briffio / hyfforddiant i’ch Cynghorwyr o werth amhrisiadwy.