keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Cam 2 – Beth all eich cynllun ei gynnwys?

Cam 2 – Beth all eich cynllun ei gynnwys?

Mae’r rhestr ar Daflen waith A yn gosod allan rhai materion posibl a all fod yn berthnasol, neu ddim, i’ch cymuned. Mae hefyd yn rhoi lle i chi ychwanegu materion eraill sy’n bwysig i chi, neu efallai is-fersiynau o’r rhai sydd yn y rhestr a baratowyd. Y bwriad yw eich bod yn argraffu copïau o’r ffurflenni a’u rhannu gyda phawb yn eich Grŵp Penderfynu ac yna gydag eraill yn eich cymuned; nid gyda phawb ar hyn o bryd, ond efallai gydag arweinwyr grwpiau a sefydliadau lleol amrywiol, athrawon, meddygon ac ati.

Dylai pawb lenwi ffurflen a gallwch chi lunio crynodeb o’r canlyniadau (ond cadwch y gwreiddiol i’w rhannu gyda’ch cyswllt yn yr awdurdod lleol). Gellir gwneud y grynodeb ar gopi arall. Byddai gwneud hyn yn unig yn gallu dweud wrthych p’un ai oes materion priodol Cynllun Cynefin yn eich cymuned ai peidio! (Ac os nad oes, mae pethau eraill y gallwch eu gwneud; cliciwch yma).