Allwn ni ddim esgus! Bydd paratoi Cynllun Cynefin yn cymryd peth amser ac yn gofyn am sgiliau ac adnoddau. Mewn gwirionedd mae pedwar prif adnodd ar gyfer y rhain, sydd wedi eu manylu’n llawnach yn Nhaflen waith B:
- Amser a sgiliau y grŵp llywio: Os byddwch yn penderfynu i wneud Cynllun Cynefin, bydd yn rhaid i chi gael Grŵp Llywio, efallai gyda’r rhai sydd ar y Grŵp Penderfynu, ac eraill hefyd, neu yn eu lle. Bydd gofyn am lawer o amser gan y rhain a dyna pham mae hi mor bwysig i fod yn eglur ynghylch pa faterion yn union rydych am weithio arnynt.
- Amser a sgiliau y gymuned: mae ymgysylltu yn weithredol ag eraill yn y gymuned ehangach yn hanfodol, nid yn unig i rannu’r faich ond oherwydd gall eraill gynnig sgiliau allweddol.
- Amser a gwybodaeth yr awdurdod lleol: Gallant gynnig cyngor cyffredinol a gwybodaeth (e.e. mapiau ac ystadegau).
- Ariannu: Bydd y costau’n amrywio’n dibynnu ar raddfa’r hyn rydych am ei gyflawni a pha adnoddau sydd ar gael i chi. Efallai y byddwch yn gallu cael cyllid ar gyfer rhan o’r prosiect neu’r cyfan ohono, ac efallai y byddwch yn gallu darganfod ffyrdd creadigol i ymgysylltu busnesau lleol neu grwpiau yn y broses. Gweler hefyd ein Pecyn Cymorth ar ariannu sy’n rhoi syniadau ar ble y gallech ddod o hyd i gyllid.