keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Cam 5 – Gwirio terfynol gyda’ch cymuned leol

Cam 5 – Gwirio terfynol gyda’ch cymuned leol

Bron yna!

Po fwyaf o bobl sy’n ymwneud â’r Cynllun, y gorau fydd y Cynllun terfynol!

Os bydd y Grŵp Penderfynu yn agos at ddechrau Cynllun Cynefin, mae’n bwysig iawn i rannu’r syniadau, y materion ac ati gyda chymaint o bobl â phosibl yn eich cymuned leol a gofyn am eu safbwyntiau.

Chi sy’n gwybod sut i wneud hyn orau oherwydd eich amgylchiadau penodol chi; gallai hyn fod trwy gylchlythyrau a grwpiau sy’n bodoli eisoes, yr ysgol leol ... neu’r capel... neu’r dafarn.

 

A beth os byddwch yn penderfynu llunio Cynllun Cynefin

Mae’n rhaid i’r Cyngor * cyfan benderfynu gwneud Cynllun Cynefin ac, os yw’r penderfyniad yna i’w wireddu a’i gofnodi’n gywir, dylech anfon copi o’r cofnod at eich awdurdod lleol. (* Os mai grŵp trigolion neu gymuned yw’ch grŵp chi bydd rhaid i chi gael rhyw lefel o strwythur ffurfiol, nodiadau o’r cofnodion ac ati, Bydd eich awdurdod yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn.)

 

A beth os byddwch yn penderfynu PEIDIO â llunio Cynllun Cynefin?

Efallai nad paratoi Cynllun Cynefin yw’r ffordd orau i ddelio â’r materion a nodwch wrth fynd trwy’r broses ar Ffurflen A y Pecyn Adnoddau. Mae pecynnau cymorth eraill ar gael i’ch cynorthwyo i reoli dyfodol eich cymuned, o gymryd rhan ym mharatoi Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategaethau Cymunedol Parciau Cenedlaethol a Chynghorau Sir / Bwrdeistref Sirol, Cynlluniau Llesiant i Gynlluniau Pentref neu Gymuned. I gael gwybodaeth cliciwch yma.