keyboard_arrow_right
Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

SUT YDYN NI’N GWYBOD OS OES ANGEN CYNLLUN CYNEFIN AR EIN CYMUNED?

Answer

Ydy Cynllun Cynefin yn iawn i chi, eich cynefin, eich pobl, eich adnoddau, eich materion allweddol lleol? Cynlluniwyd yr adnoddau yn y wefan hon i alluogi cymunedau i ddod at benderfyniad gwybodus. Yn yr adran Cymunedau rydym yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i’w darllen cyn i chi ddechrau a phroses 5 cam ynghyd â thaflenni gwaith ymarferol i’ch helpu chi a’ch cymuned i ddod at benderfyniad p’un ai yw Cynllun Cynefin yn iawn i chi ai peidio.

PA MOR HIR FYDD HYN YN CYMRYD A FAINT FYDD YN COSTIO?

Answer

Mae’r amser a gymerir a chost Cynllun Cynefin yn amrywio’n dibynnu ar raddfa’r hyn rydych am ei gyflawni a pha adnoddau sydd ar gael. Efallai gallwch gael cyllid ar gyfer rhan neu’r cyfan o’ch prosiect, ac efallai byddwch yn gallu dod o hyd i ffyrdd creadigol i ymgysylltu busnesau neu grwpiau lleol yn y broses.
Ceir gwybodaeth gyffredinol ar ariannu yn y Pecyn Cymorth Cynllun Cynefin ac efallai bydd gan eich Awdurdod Lleol chi ffynonellau eraill.

RYDW I’N BYW MEWN ARDAL HEB CYNGOR TREF NO CHYMUNED, A ALL CYMUNED BARATOI CYNLLUN CYNEFIN?

Answer

Diben Cynlluniau Cynefin yw delio ag ardal gymunedol a’r disgwyl yw mai Cynghorau Tref a Chymuned fydd yn arwain y paratoi, neu trwyddyn nhw gan mai nhw yw’r corff lleol swyddogol. Os nad oes Cyngor ei hun gan eich cymuned ond bod eich grŵp cymuned neu grŵp trigolion yn dymuno paratoi Cynllun Cynefin, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a /neu Cymorth Cynllunio Cymru am gyngor.

A OES ESIAMPLAU O GYNLLUNIAU CYNEFIN SYDD WEDI EU CWBLHAU?

Answer

Bwriwch olwg ar adran Astudiaethau Achos y wefan i weld rhai esiamplau diddorol o gynllunio cymunedol.

OES RAID I NI WNEUD CYNLLUN CYNEFIN?

Answer

Nid yw’n ofynnol yn ffurfiol eich bod yn gwneud un. Mae Cynlluniau Cynefin yn fodd i ddelio â materion a phryderon defnydd tir a datblygu ar lefel leol a chymunedol, yn ogystal â cheisio cyflawni dyheadau lleol. Eich cymuned leol fydd yn penderfynu dewis gwneud un. Dilynwch y broses penderfynu 5 cam sy’n cynnwys taflenni gwaith ymarferol i’ch helpu chi a’ch cymuned i ddod at benderfyniad p’un ai yw Cynllun Cynefin yn iawn i chi ai peidio.

PA GEFNOGAETH SYDD AR GAEL? A OES CYLLID AR GAEL?

Answer

Gall eich Awdurdod Cynllunio Lleol gynnig gwybodaeth a chyngor cyffredinol (e.e. mapiau ac ystadegau) ac mae’n gysylltbwynt cyntaf pwysig ar gyfer grwpiauy sy’n ystyried paratoi Cynllun Cynefin. Bydd faint o gefnogaeth a ellir ei ddarparu yn amrywio.
Ceir gwybodaeth gyffredinol ar ariannu yn y Pecyn Cymorth Cynllun Cynefin ac efallai bydd gan eich Awdurdod Lleol chi ffynonellau eraill.

PA DDYLANWAD SYDD GAN GYNLLUN CYNEFIN?

Answer

Gall Cynllun Cynefin, sydd wedi ei baratoi gan gymunedau lleol, fod yn ffordd gadarnhaol i ymgysylltu â chynlluniau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, gan ychwanegu eich manylion lleol iawn chi i Gynllun Datblygu Lleol a Chynllun Llesiant eich ardal.
Gellir mabwysiadu Cynllun Cynefin gan yr awdurdod lleol fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) roi pwysigrwydd iddo yn y system gynllunio.

BETH YW MANTEISION PARATOI CYNNLUN CYNFIN?

Answer

Mae Cynlluniau Cynefin yn ffordd i chi sefydlu’r materion datblygu pwysig yn eich cymuned a chytuno ar ffyrdd i ddelio â’r rhain yn y dyfodol mewn modd sy’n fwy tebygol o fod yn cydfynd â dyheadau a syniadau lleol.
Gellir defnyddio Cynllun Cynefin i alluogi mewnbwn cadarnhaol i’r system gynllunio leol, gan gynnig i’ch cymuned mwy o ddylanwad dros benderfyniadau cynllunio yn eich ardal leol. Hefyd gellir defnyddio’r dystiolaeth a’r wybodaeth sy’n tanategu eich Cynllun Cynefin i sicrhau cyllid ar gyfer gweithrediadau a phrosiectau a nodwyd.
Darganfyddwch fwy yn yr adran Cymunedau – Cyn i chi ddechrau .

PWY DDYLAI GYMRYD RHAN?

Answer

Bydd gwneud eich cymuned leol yn ymwybodol a’u cael i gymryd rhan yn bwysig iawn yn ystod paratoi’r cynllun, ac yn bwysig i sicrhau ei lwyddiant.
Edrychwch ar y Pecyn Cymorth Ymrwymiad Cymunedol yn y Pecyn Cymorth Cynllun Cynefin am ganllaw ymarferol.

Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn gweithio’n agos â’ch awdurdod lleol oherwydd gallant wedyn roi rhywfaint o statws i’r cynllun terfynol, statws cyfreithiol hyd yn oed. Ceir gwybodaeth cysylltiadau ar gyfer eich ardal yn adran Cymunedau y wefan hon.

Yn ddibynnol ar yr hyn mae eich Cynllun Cynefin yn ei drafod efallai bydd angen ymrwymo darparwyr gwasanaethau eraill arnoch i gasglu tystiolaeth neu sicrhau y gellir cyflenwi gweithrediadau a nodwyd.

PA FATERION A ALL – NEU NA ALL – CYNLLUN CYNEFIN EI DRAFOD

Answer

Gall eich Cynllun Cynefin fod yn eang neu’n delio ag un neu ddau fater yn unig. Gall fod yn fanwl neu â thema, yn gosod allan yn syml egwyddorion cyffredinol ar gyfer datblygu.

Gall Cynllun Cynefin fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ddelio â phethau sy’n berthynol i ddefnydd tir, datblygu a’r amgylchedd adeiledig megis tai newydd, gwella canol pentref neu dref, dyluniadau adeiladau a chymeriad lleol, mannau agored, cyflogaeth leol, cyfleusterau lleol … (ychydig o esiamplau yn unig yw’r rhain).

Darperir taflen waith ymarferol yn yr adran Cymunedau i helpu eich cymuned i ddiffinio pa faterion sy’n wynebu eich cymuned a ph’un ai ydyn nhw’n berthynol i ddefnydd tir ai peidio.

CHWILIO AM ADNODDAU DEFNYDDIOL ERAILL?

Answer

Cliciwch ym: