keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Cyflwyno Cynlluniau Cynefin

Cyflwyno Cynlluniau Cynefin

Cefndir

Mae Cynlluniau Cynefin yn fecanwaith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gymunedau ymgysylltu’n greadigol â’r broses gynllunio ac i gynllunwyr gefnogi mentrau creu cynlluniau gyda phobl leol.

Gall Cynlluniau Cynefin ddarparu cyfle i gynnig coethi manylion polisi cynllunio (canllaw thematig neu’n safle benodol) ar gyfer ardaloedd lleol a ddylai adlewyrchu arwahanrwydd lleol a delio â materion lleol a’r rhai sy’n benodol i’r gymuned.

Felly disgwylir i’r rhan fwyaf o Gynlluniau Cynefin gael eu paratoi gyda’r amcan o ddod yn Ganllaw Cynllunio Atodol (CCA) felly bydd yn hanfodol bod pob un yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda’r awdurdod lleol; y tîm cynllunio yn bennaf ond eraill efallai hefyd.

Pwy all baratoi Cynllun Cynefin?

Mae Cynlluniau Cynefin yn delio ag ardal gymunedol a disgwylir bod eu paratoi, yn ddelfrydol ond nid yn gyfangwbl,yn cael ei arwain gan Gynghorau Tref a Chymuned, neu trwyddyn nhw os byddant yn dewis sefydlu Grŵp Llywio’r Cynllun, yn ddelfrydol gyda phobl leol yn hytrach na Chynghorwyr yn unig.

Gall grŵp lleol annibynnol fentro dechrau Cynllun Cynefin ond, yn y pen draw, byddai’n rhai i’r broses ffurfiol fynd trwy’r Cyngor perthnasol.

Efallai byddai rhai cymunedau bychain yn meddwl bod paratoi Cynllun Cynefin yn ormod iddyn nhw, felly byddai o werth iddynt ystyried weithio gydag eraill mewn ‘clwstwr’ i gynhyrchu in cynllun cyffredinol (gyda amrywiadau lleol iawn). Er enghraifft, mae Cyngor Sirol Sir Fynwy yn mabwysiadu dull clwstwr fel rhan o’i fenter Cynllun Cynefin Cyfan.

Ar y llaw arall, efallai bod gan ardal tref a chymuned nifer o drefi unigryw a phob un yn gofyn am ei Chynllun Cynefin ei hun.

Nid oes gan bob rhan o Gymru (llawer ohonynt yn ardaloedd trefol) Gyngor Tref a / neu Gyngor Cymuned. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ataol cymunedau o’r ardaloedd hyn rhan paratoi Cynlluniau Cynefin. Os mai hyn yw’r sefyllfa gyda rhai o’ch cymunedau chi, gall sefydlu Grŵp Llywio Cynllun Cynefin, sy’n cynrychioli cymunedau yr ardal leol, fod yn ffordd briodol o baratoi Cynllun Cynefin. Cysylltwch â Cymorth Cynllunio Cymru am gyngor.

 

Beth all Cynllun Cynefin ei gynnwys?

CLI – Cynllun Llesiant     CDLl - Cynllun Datblygu Lleol     Ccyn – Cynllun Cynefin     Ccym – Cynllun Cymuned

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod tri maen prawf yn bwysig pan yn paratoi CCA a all hefyd fod o gymorth i’w hystyried pan yn meddwl am gynnwys posibl i Gynlluniau Cynefin, yn benodol gall CCA:

  1. Ddarparu canllaw pwysig i ehangu polisi, sy’n seiliedig ar bwnc, i gynorthwyo gweithredu’r CDLl.
  2. Ddelio â manylion a chanllawiau / trothwyon rhifiadol ble gallant newid er mwyn osgoi i’r CDLl ddyddio ac i gynorthwyo hyblygrwydd.
  3. Darparu canllaw manwl ychwanegol ar y math o ddatblygiad a ddisgwylir mewn ardal sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer ei datblygu yn y CDLl. Gall hyn fod ar ffurf briff datblygu neu brif gynllun sydd wedi ei gyfeirio’n fwy dyluniadol.

Oherwydd ei natur ni all CCA gyflwyno polisi newydd, ond fel CCA posibl, dylid cysylltu Cynlluniau Cynefin â Chynlluniau Datblygu Lleol a dylai eu cynnwys ganolbwyntio ran fwyaf ar bynciau sy’n berthynol i ddatblygiad a defnydd tir e.e.

  • cynhyrchu briffiau datblygiadau neu brif gynllun sy’n gogwyddo fwy at ddyluniadau ar gyfer safleoedd a ddosrannwyd eisoes;
  • delio â dyluniad lleol unigryw;
  • cyfleusterau cymunedol;
  • mannau agored ac yn y blaen.

Gallant hefyd gynorthwyo nodi safleoedd bychain i’w datblygu (ond nid eu dosrannu).

CLI – Cynllun Llesiant     CDLl - Cynllun Datblygu Lleol     Ccyn – Cynllun Cynefin     Ccym – Cynllun Cymuned CDS - Cynllun Datblygu Seilwaith

Gall Cynlluniau Cynefin hefyd weithredu fel cynllun i alluogi rhyngweithio gwell rhwng cymunedau lleol a’r awdurdod lleol pan yn nodi ac yn blaenoriaethu anghenion seilwaith. Yn y cyd-destun hwn, gall Cynlluniau Cynefin ddarparu arweiniad i ddosbarthu arian a godir o Ardoll Seilwaith Cymunedol, gan gael gafael ar 15% o gyllid, o bosib, i gefnogi seilwaith lleol.

Mae rhai awdurdodau lleol, ble rhoddwyd cynnig ar Gynlluniau Cynefin eisoes, wedi cysylltu’r hyn sydd yn y Cynlluniau Cynefin â’u Cynllun Cyflenwi Seilwaith, trwy ychwanegu’r hyn sydd, mewn effaith yn ‘gynlluniau gweithredu’ prosiectau lleol, i mewn i’r Cynlluniau Cynefin. Gall hyn sefydlu fframwaith cydlynol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ar lefel leol, yn fwyaf posibl trwy’r Ardoll Seilwaith Cymunedol – esiampl dda o hyn yw Cynlluniau Cynefin yn Sir Amwythig.

Mae’n debygol bydd llawer o gymunedau yn dymuno ehangu’r agenda yma i gynnwys materion pwysig eraill yn lleol. Gall CCA, o bosib, wneud ychydig o hyn oherwydd y dystiolaeth leol fanwl sydd ynddo, ond mae’n bwysig i fod yn eglur iawn gydag unrhyw gymuned ynghylch y paramedrau sylfaenol o’r hyn all nau na all fynd i mewn i CCA. Ar hyn o bryd, mae sylwadau amrywiol rhwng awdurdodau ynghylch a ellir mabwysiadu hyn oll fel CCA ond, beth bynnag yw safbwynt eich awdurdod chi, mae’n bosibl o hyd i gael Cynllun Cynefin mewn dwy ran: Rhan 1 yn dod yn CCA (a’i fabwysiadu), Rhan 2 yn parhau yn hollol anffurfiol.

 

A all Cynlluniau Cynefin ddosrannu safleoedd?

Er mwyn ystyried y pwynt hwn mae’n bwysig adolygu beth gall neu na all CCA ei wneud. I grynhoi, nid yw CCA yn rhan o’r cynllun datblygu; ni allant gyflwyno polisi newydd; ni allant osod y math, graddfa a chwantwm datblygiad newydd; ac, mae’n rhaid iddynt fod ynghlwm â pholisi yn y CDLl y maent yn darparu canllawiau ychwanegol arno.

Yn seiliedig ar y ddealltwriaeth yma, gan mai canllawiau yn unig yw CCS, ni fyddent yn gallu dosrannu safleoedd i’w datblygu. Gellir ond dosrannu safleoedd yn ffurfiol yn y cynllun datblygu. Fodd bynnag, gall cymunedau gyfrannu at y broses o asesu safleoedd ac efallai nodi safleoedd ychwanegol nas amlygwyd drwy brosesau ffurfiol. Gweler y Pecyn Cymorth Asesu Safle i gael y fethodoleg a awgrymir i’w fabwysiadu i’ch dull ardal benodol chi ynghyd â’r cyd-destun polisi.