keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
keyboard_arrow_right
Cefnogi eich cymunedau i wneud y penderfyniad

Cefnogi eich cymunedau i wneud y penderfyniad

Camau allweddol, tasgau a rolau (yn cynnwys eich un chi)

Mae canllawiau’r gymuned yn awgrymu nifer o gamau ble byddai eich cefnogaeth o werth penodol ac hefyd nifer o dasgau ble byddai cymunedau’n falch o gael help. Gwelir y rhai allweddol, a sut y gallech helpu, isod.

Ai Cynllun Cynefin yw’r dull cywir?

Mae hyn yn hollol sylfaenol. Nid oes unrhywun am weld cymuned yn mynd ymlaen i gynhyrchu Cynllun Cynefin os nad yw, am ba reswm bynnag, y ffordd fwyaf priodol yn eu sefyllfa arbennig hwy. Nid yn unig y byddai hynny’n gwastraffu eu hamser a’u harian, byddai hefyd yn gwastraffu eich arian chithau a’r awdurdod, yn ogystal â chreu dicter a rhwystredigaeth i bawb yn cynnwys colli hyder mewn cynllunio yn ei gyfanrwydd.

Dan ‘5 Cam i Wneud Penderfyniad’ gofynnir i Gynghorau Tref a Chymuned i sefydlu ‘Grŵp Penderfynu’ bach, dros dro. Yna mae’n rhaid i’r grŵp hwnnw gwblhau rhai ffurflenni, gyda nodiadau, ar y materion sy’n fwyaf pwysig iddyn nhw ac am yr adnoddau (amser, arian ac ati) sydd ar gael iddynt i baratoi Cynllun Cynefin.

Dyma ble mae eich rôl gefnogol gyntaf chi, oherwydd mae’r canllawiau yn gofyn iddynt wirio popeth gyda’u hawdurdod cynllunio lleol cyn penderfynu a ddylent fynd yn eu blaenau ai peidio. Efallai byddai’n briodol hefyd ar rai adegau i awgrymu (yn dyner!) i gymunedau bychain neu betrusgar i ffurfio clwstwr gydag eraill i wneud un cynllun a rhannu rhai o’r adnoddau a thasgau sy’n gyffredin i bawb.

Os nad yw Cynllun Cynefin yn iawn, ble wedyn?

Nid oes yn rhaid i benderfyniad nad yw Cynllun Cynefin yn iawn i gymuned benodol fod yn ddiwedd y gân. Mae rhan olaf un y canllawiau ‘5 Cam’ yn awgrymu beth arall y gall cymuned ei wneud heblaw Cynllun Cynefin.

Os yw hynny’n dod i’r amlwg pan fyddwch yn cyfarfod fel uchod, nid eich rôl chi yw trafod hynny’n fanwl, ond gallai fod o werth i’w cyfeirio at rywun arall yn eich awdurdod (efallai nid mewn cynllunio) a all eu helpu ar fentrau megis cynlluniau lles a phrosiectau nad sy’n eistedd yn hawdd mewn CCA.

Pa arian sydd ar gael?

Mae canllawiau’r gymuned yn cynnwys ‘Pecyn Cymorth’ ar ariannu. Gall grwpiau gyfeirio at hyn i’w helpu i lenwi’r ffurflenni a sonnir amdanynt uchod, ond yn fwy pwysig, unwaith y byddant wedi cychwyn ar Gynllun Cynefin (os mai dyna eu penderfyniad). Unwaith eto, nid yw hyn yn rhan o’ch rôl chi mewn gwirionedd, er efallai eich bod yn gwybod am grant sydd ar gael yn eich ardal awdurdod neu, fel o’r blaen, efallai eich bod yn gwybod at bwy i’w cyfeirio i gael y cyngor yna.