Llanfairfechan

Llanfairfechan

Mae angen eich help chi arnom ni er mwyn creu cynllun ar gyfer Llanfairfechan!

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn gweithio gydag aelodau’r gymuned i greu cynllun newydd a fydd yn helpu i hysbysu a llunio dyfodol eich cymuned.

Dweud eich dweud!

Mae amryw o ffyrdd y gallwch fynegi eich barn ar yr hyn a ddylai fod yn y cynllun:

SaaS-1

Digwyddiadau

Ymunwch â ni yn un o’r digwyddiadau a gynhelir o fewn ac o amgylch Llanfairfechan.

Map

Rhannwch eich sylwadau ar y map tref rhyngweithiol (Cofrestrwch yn gyntaf gan ddefnyddio'r ddewislen uchaf ar y dde).

Arolwg

Atebwch ein harolwg ar-lein i rannu eich syniadau am Lanfairfechan.

welshart

Celf

Cliciwch yma i lawrlwytho mwy o wybodaeth am ein cystadleuaeth gelf.

saas2

E-bost

Cyflwynwch eich cyfeiriad e-bost er mwyn derbyn y diweddariadau diweddaraf am y cynllun.

Beth yw'r cynllun hwn?

Caiff y cynllun ei adnabod fel Cynllun Cynefin Chwim. Bydd yn disgrifio’r hyn sy’n arbennig ynghylch Llanfairfechan a beth fyddai’r gymuned yn hoffi ei wneud i wneud ein tref hyd yn oed yn well yn y dyfodol.

 
Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi yn Rhagfyr 2022 a bydd yn gweithredu fel pwynt cychwyn ar gyfer un ai Cynllun Cynefin llawn neu Gynllun Cymuned.

 

Cefnogir paratoi’r cynllun gan Gymorth Cynllunio Cymru fel rhan o brosiect a ariannir gan Lywodraeth y DU yng Nghymru ac a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Llinell Amser y Cynllun

Dyma Linell Amser yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn a pha ddigwyddiadau a cherrig milltir sydd ar y gorwel:

8 Mehefin 2022
Lansio’r Cynllun Chwim
Digwyddiad cyntaf – rhannu syniadau!

Daeth grŵp o tua 15 o drigolion o Lanfairfechan at ei gilydd i rannu syniadau am yr hyn maent yn ei garu am y dref a’r hyn a ellid ei wella.

Lawrlwythwch grynodeb o'r canlyniadau yma >>

18 Gorffennaf 2022
Casglu mwy o safbwyntiau a phrofi syniadau wedi'u trafod
Sesiwn galw heibio

Cynhaliwyd y sesiwn galw heibio hon yn ystod gwyliau’r haf a gofynnodd i bobl am eu barn ar ystod eang o faterion a nodwyd yn y sesiwn trafod syniadau.

Crynodeb yn dod yn fuan.

Awst 2022
Cael y gymuned i ymuno â ni
Ffurfiwyd Gweithgor Cynllunio Cymunedol

Er mwyn sicrhau datblygiad llawn y cynllun a’i fod yn berchen i’r gymuned ac nid Cyngor y Dref yn unig, ffurfiwyd Gweithgor Cynllunio Cymunedol newydd. Bydd y Gweithgor hwn yn goruchwylio datblygiad a chyflwyniad y cynllun ac mae'n cynnwys ystod eang o gynrychiolwyr cymunedol gan gynnwys aelodau'r Cyngor Tref.

Diddordeb mewn ymuno?

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth>>

7 Hydref 2022
Gweithredu Cymunedol!
Ymgysylltu a Arweinir gan y Gymuned

Cynhaliodd aelodau’r Gweithgor stondin yn y Co-op a gofyn i bobl am eu barn ar y cynllun.

26 Hydref 2022
Cyrraedd pobl ar-lein
Lansio Gwefan Ymgysylltu â'r Gymuned

Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i fap rhyngweithiol, cystadleuaeth gelf ac arolwg; plis rhannwch gyda'r gymuned!

10 Tachwedd 2022
Dod â 4 tref ynghyd
Cynhadledd Rhanddeiliaid

There is no upcoming event

25 Tachwedd 2022
Cyfle olaf i ddweud eich dweud
Dyma’r cyfle olaf i ddweud eich dweud

Dyma’r diwrnod olaf y gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein, y map rhyngweithio a chyflwyno’ch darnau ar gyfer y gystadleuaeth gelf.
Yna byddwn yn dod â’r cwbl at ei gilydd.

11 Rhagfyr 2022
Bydd fersiwn ddrafft o’r Cynllun yn cael ei lansio
Cynhyrchu drafft lawn y Cynllun

 Bydd ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft y Cynllun yn cael ei lansio a bydd ar gael i’w lawrlwytho ar y wefan hon. Mwy o fanylion i ddilyn.

Allwch chi helpu hyd yn oed yn fwy?

Os ydych am gymryd rhan neu am gael gwybod am ddatblygiad y Cynllun, yn cynnwys digwyddiadau ymgynghoriad ac ymgysylltiad, byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen isod.

Pe bai’n well gennych, gallwch gysylltu â ni trwy un a:

  • e-bostio [email protected]
  • alw 01248 681697
  • ysgrifennu at Cyngor Tref Llanfairfechan Town Council, Neuadd y Dref, Ffordd y Pentref, Llanfairfechan LL33 0AB

Cysylltwch â ni / Ymunwch â’n rhestr bostio:

SignupWelsh Llan