Yn y pen draw eich grŵp chi sy’n rhaid gwneud a chofnodi’n ffurfiol y penderfyniad i baratoi Cynllun Cynefin. I gyrraedd y pwynt hwnnw mae’n well eich bod yn sefydlu grŵp bach o bobl i weithio ar yr agweddau sy’n dilyn. Gall hyn fod yn 3, 4, 5 o bobl ac, os oes Cyngor Tref a Chymuned yn eich ardal, byddai’n ddefnyddiol bod o leiaf un Cynghorydd yn y grŵp (on nid yr holl 3/4/5 yn Gynghorwyr!).
Y tasgau ar gyfer y ‘Grŵp Penderfynu’ bach hwn yw rheoli rhestru’r materion allweddol (Cam 2) ac archwiliad o’r adnoddau posibl sydd ar gael (Cam 3), yn cynnwys cyfarfod â phobl yn eich awdurdod lleol (Cam 4).
Rydym wedi cynhyrchu Taflenni Gwaith Penderfynu sy’n cynnwys ffurflenni i helpu gyda’r tasgau hyn, felly symudwch ymlaen i Gam 2.
Lawrlwythwch y taflenni gwaith yma: