Rydym angen eich help i wneud cynllun ar gyfer Penmaenmawr!
Mae Cyngor Tref Penmaenmawr yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned i wneud cynllun newydd a fydd yn helpu i lywio a siapio dyfodol eich cymuned.
Mae Cyngor Tref Penmaenmawr yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned i wneud cynllun newydd a fydd yn helpu i lywio a siapio dyfodol eich cymuned.
Gelwir y cynllun hwn yn ‘Gynllun Cynefin Kickstarter’. Bydd yn disgrifio’r hyn sy’n arbennig am Benmaenmawr a’r hyn yr hoffai’r gymuned ei wneud i wneud ein tref hyd yn oed yn well yn y dyfodol.
Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022 a bydd yn fan cychwyn ar gyfer naill ai Cynllun Cynefin llawn neu Gynllun Cymunedol.
Mae’r gwaith o baratoi’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Gymorth Cynllunio Cymru fel rhan o brosiect a ariennir gan Lywodraeth y DU Cymru sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae amryw o ffyrdd y gallwch fynegi eich barn ar yr hyn a ddylai fod yn y cynllun:
Ymunwch â ni ar gyfer un o'n digwyddiadau sydd i ddod ym Mhenmaenmawr a'r cyffiniau.
Rhannwch eich sylwadau am Benmaenmawr ar ein map rhyngweithiol.
Cymerwch ein harolwg ar-lein i rannu eich barn am Benmaenmawr.
Cliciwch yma i lawrlwytho mwy o wybodaeth am ein cystadleuaeth gelf.
Cyflwynwch eich cyfeiriad e-bost i dderbyn y diweddariadau diweddaraf ar y cynllun.
Dyma Linell Amser yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn a pha ddigwyddiadau a cherrig milltir sydd ar y gorwel:
Daeth grŵp o tua 15 o drigolion o Lanfairfechan at ei gilydd i rannu syniadau am yr hyn maent yn ei garu am y dref a’r hyn a ellid ei wella.
Daeth trigolion Penmaenmawr at ei gilydd yng Nghlwb Golff Penmaenmawr i drafod syniadau am yr hyn yr oeddent yn ei garu am y dref a'r hyn y gellir ei wella.
Gweler crynodeb o'r canlyniadau uchod.
Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i fap rhyngweithiol, cystadleuaeth gelf ac arolwg; plis rhannwch gyda'r gymuned!
Er mwyn sicrhau datblygiad llawn y cynllun a’i fod yn berchen i’r gymuned ac nid Cyngor y Dref yn unig, ffurfiwyd Gweithgor Cynllunio Cymunedol newydd. Bydd y Gweithgor hwn yn goruchwylio datblygiad a chyflwyniad y cynllun ac mae'n cynnwys ystod eang o gynrychiolwyr cymunedol gan gynnwys aelodau'r Cyngor Tref.
Diddordeb mewn ymuno?
Rydym yn bwriadu cyflwyno mwy o ddigwyddiadau ym Mhenmaenmawr ac yn benodol targedu pobl ifanc. Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan. Os gallwch ein helpu i gyrraedd pobl ifanc (neu unrhyw grwpiau eraill) neu os hoffech gael y newyddion diweddaraf, cysylltwch â ni isod.
Dyma’r diwrnod olaf y gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein, y map rhyngweithio a chyflwyno’ch darnau ar gyfer y gystadleuaeth gelf.
Yna byddwn yn dod â’r cwbl at ei gilydd.
Os ydych am gymryd rhan neu am gael gwybod am ddatblygiad y Cynllun, yn cynnwys digwyddiadau ymgynghoriad ac ymgysylltiad, byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen isod.
Os byddai’n well gennych, gallwch gysylltu â ni un ai ar:
[email protected]